Marco Gil-Cervantes, ProMo-Cymru
Marco is the Chief Executive of ProMo-Cymru. Cultivating a co-operative social enterprise approach, Marco has spent the majority of his career developing creative and innovative organisations and projects in order to promote marginalised voices and support young people and the communities they live in. Marco set up the first public internet point for young people in Wales in Grassroots, Cardiff 25 years ago.
ProMo-Cymru has been at the forefront of developing digital tools, social media policy and practice, and communication channels for young people and families in Wales. At the forefront of these developments has been the promotion of citizen voices, advocacy and cultural democracy.
ProMo-Cymru’s first foray into digital communication was www.thesprout.co.uk, Cardiff’s news and information site for young people. This has been running for 8 years and led into the Wales wide CLIC network. A further innovation has been the Meic Helpline for Wales which provides phone, text and instant messaging access for young people. It is also the first advocacy based helpline in Europe.
Over the last two years, using the lessons learnt with previous communications and helpline channels, ProMo-Cymru has been developing FamilyPoint Cymru, using an integrated communications model allowing multiple access points for families in Wales.
ProMo-Cymru is active in the European Information and Counselling Agency and presents its work in this European wide arena. ProMo-Cymru is currently exploring the development of a European wide youth news site comprised of localised editorial groups of young people.
Marco Gil-Cervantes, ProMo-Cymru
Marco yw Prif Weithredwr ProMo-Cymru. Gan feithrin dull gweithredu menter cymdeithasol gydweithredol, mae Marco wedi treulio mwyafrif ei yrfa yn datblygu prosiectau a sefydliadau arloesol a chreadigol er mwyn hyrwyddo lleisiau ar y cyrion a chynorthwyo pobl ifanc yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt. Sefydlodd Marco y pwynt rhyngrwyd cyhoeddus cyntaf i bobl ifanc yng Nghymru yn Grassroots, Caerdydd 25 o flynyddoedd yn ôl.
Mae ProMo-Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu offerynnau digidol, polisi ac arfer ym maes cyfryngau cymdeithasol, a sianelau cyfathrebu ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Mae hyrwyddo llais dinasyddion, eiriolaeth a democratiaeth ddiwylliannol wedi bod yn flaenllaw iawn yn y datblygiadau hyn.
Cam cyntaf ProMo-Cymru ym maes cyfathrebu digidol oedd www.thesprout.co.uk, sef gwefan newyddion a gwybodaeth Caerdydd ar gyfer pobl ifanc. Mae hon wedi bod yn rhedeg am 8 mlynedd ac mae wedi arwain at rwydwaith CLIC ar gyfer Cymru gyfan. Cam arloesol arall fu Llinell Gymorth Meic i Gymru, sy’n cynnig mynediad i bobl ifanc i wasanaeth ffôn, negeseuon testun a negeseuon gwib. Hon hefyd yw’r linell gymorth gyntaf yn Ewrop sy’n seiliedig ar eiriolaeth.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd gyda sianelau cyfathrebu a llinellau cymorth blaenorol, mae ProMo-Cymru wedi bod yn datblygu FamilyPoint Cymru, gan ddefnyddio model cyfathrebu integredig sy’n caniatáu pwyntiau mynediad lluosog i deuluoedd yng Nghymru.
Mae ProMo-Cymru yn weithgar yn yr Asiantaeth Wybodaeth a Chwnsela Ewropeaidd, ac mae’n cyflwyno ei waith yn yr arena Ewropeaidd hon. Ar hyn o bryd, mae ProMo-Cymru yn archwilio datblygiad gwefan ieuenctid ar gyfer Ewrop gyfan, a fyddai’n cynnwys grwpiau golygyddol lleol o bobl ifanc.