Geraint Strello, Regional Partnership Director & Welsh Language Policy Manager, BT Group
Geraint is the Welsh Language Policy Manager and plays a co-ordinating role across the various BT activities in Wales. In addition to his Welsh language role, Geraint’s emphasis is on helping people, businesses and communities in Wales harness the opportunities of communications technologies. With over 37 years’ experience in BT in various roles including engineering, customer services and contact centre management, he plays a key role in the running of the BT Wales Board and Wales Advisory Forum and in communicating with key organisations and individuals in Wales.
Outside of work, Geraint plays an active part in his local community. He sits on the Board of two social enterprises helping people with disabilities. He is also a member of the college council for the Glynllifon site of Llandrillo Menai Group as well as a member of the Board of Governors of Llandwrog Primary school. He is also involved in search and rescue operations in north Wales as a member of H M Coastguard and the ‘Search and Rescue Dogs Association (SARDA Wales).
Geraint Strello, Cyfarwyddwr Partneriaeth Rhanbarthol a Rheolwr Polisi yr Iaith Gymraeg, Grŵp BT
Geraint yw Rheolwr Polisi yr Iaith Gymraeg ac mae’n cyflawni rôl cydlynu ar draws gweithgareddau amrywiol BT yng Nghymru. Yn ychwanegol i’w rôl sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg, mae gwaith Geraint yn canolbwyntio ar helpu pobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau cyfathrebu. Mae ganddo dros 37 o flynyddoedd o brofiad o gyflawni rolau amrywiol o fewn BT gan gynnwys rheoli gwaith peirianneg, gwasanaethau cwsmeriaid a chanolfan gyswllt, ac mae’n cyflawni rôl allweddol wrth redeg Fforwm Cynghori Cymru a Bwrdd Cymru BT ac wrth gyfathrebu â sefydliadau ac unigolion allweddol yng Nghymru.
Y tu allan i’r gwaith, mae Geraint yn weithgar yn ei gymuned leol. Mae’n eistedd ar Fwrdd dwy fenter gymdeithasol sy’n helpu pobl sydd ag anableddau. Yn ogystal, mae’n aelod o gyngor coleg Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer safle Glynllifon ac mae’n aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llandwrog. Mae’n ymwneud â chyrchoedd chwilio ac achub yng ngogledd Cymru hefyd, fel aelod o Wylwyr y Glannau E M a’r ‘Gymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub (SARDA Cymru).