Dr Carina Girvan

Dr Carina Girvan is a lecturer in education in the School of Social Sciences
at Cardiff University. Since 2008 she has been researching the design of
learning experiences using emerging technologies in formal and non-formal
education. She has particular interest in pedagogical design, virtual
environments, teacher professional development and the experiences of young
people. Carina is currently leading a British Academy funded research
project Co-producing Understandings of Digital Responsibility, in which she
works with teachers to develop lessons to empower young people to share
their knowledge and misunderstandings of digital citizenship, in secondary
schools in England and Wales. She also works as part of an international
team exploring the use of robotics in classrooms across Europe, to develop a
framework for Educational Robotics in STEM. As part of this Carina has
created SLurtles, programmable robots in a 3D virtual world which are being
used by children in Wales, Ireland and Greece to explore mathematical
concepts, learn to programme and develop computational thinking skills.

Dr Carina Girvan

Mae Dr Carina Girvan yn ddarlithydd mewn addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.  Er 2008, mae wedi bod yn ymchwilio i ddyluniad profiadau dysgu gan ddefnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg mewn addysg ffurfiol ac anffurfiol.  Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dylunio addysgol, amgylcheddau rhith, datblygiad proffesiynol athrawon a phrofiadau pobl ifanc.  Ar hyn o bryd, mae Carina yn arwain prosiect ymchwil a ariannir gan yr Academi Brydeinig, sef Cyd-gynhyrchu Dealltwriaeth o Gyfrifoldeb Digidol, lle y mae’n gweithio gydag athrawon i ddatblygu cynlluniau gwersi er mwyn grymuso pobl ifanc i rannu eu gwybodaeth a’u camddealltwriaeth o ddinasyddiaeth ddigidol, mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr.  Yn ogystal, mae’n gweithio fel aelod o dîm rhyngwladol sy’n archwilio’r defnydd o roboteg mewn ystafelloedd dosbarth ar draws Ewrop, er mwyn datblygu fframwaith ar gyfer Roboteg Addysgol yn STEM.  Fel rhan o hyn, mae Carina wedi creu SLurtles, robotiaid y mae modd eu rhaglennu mewn byd rhith 3D sy’n cael eu defnyddio gan blant yng Nghymru, Iwerddon a Groeg er mwyn archwilio cysyniadau mathemategol, dysgu rhaglennu a meithrin sgiliau meddwl cyfrifiadol.