Dr Ann John, Clinical Associate Professor of Public Mental Health,
Swansea University Medical School
Title: ‘The Internet and Self Harm: Hero or Villain?

Ann John is an Associate Professor at the Swansea University Medical School. She is also a Consultant in Public Health Medicine and before that was a GP. Her main research interests are the epidemiology and prevention of suicide, suicidal behaviour and self harm. Ann leads on a programme of research in this area with a particular focus on children and young people, the use of routinely collected data and media reporting. She chairs the National Advisory Group to Welsh Government and is the national lead for Public Health Wales on suicide and self harm prevention. These roles support her commitment to the translation of evidence into policy and practice.

Dr Ann John, Athro Cyswllt Clinigol ym maes Iechyd Meddwl y Cyhoedd, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe
Teitl: ‘Y Rhyngrwyd a Hunan-niwed: Arwr neu Ddihiryn?

Mae Ann John yn Athro Cyswllt yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Mae’n Feddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd hefyd, a chyn hynny, arferai fod yn feddyg teulu. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil ym maes epidemioleg ac atal hunanladdiad, ymddygiad hunanladdol a hunan-niwed. Mae Ann yn arwain rhaglen ymchwil yn y maes hwn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar blant a phobl ifanc, sut y defnyddir data a gesglir fel mater o drefn ac adrodd yn y cyfryngau. Mae’n cadeirio’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac mae’n arweinydd cenedlaethol i Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch atal hunanladdiad a hunan-niwed. Mae’r rolau hyn yn cefnogi ei hymrwymiad i’r cam o drosi tystiolaeth yn bolisi ac arfer.