David Miles, Child Online Protection Expert

For the past 30 years, David has held a wide range of executive leadership roles in the technology industry and charitable sector, including IBM, Compaq and the Family Online Safety Institute (FOSI).

Currently, David is member of the Expert Panel for UNICEF’s Global Fund to End Violence Against Children and of the UKCCIS Evidence and Technical Working Groups.

He has also advised the British Board of Film Classification (BBFC), as part of the UK Governments consultation on the introduction of age verification for minors in relation to sexually explicit content online.

David was the architect of FOSI’s Global Resource and Information Directory (GRID). Launched in 2010, it remains the only comprehensive source of peer-reviewed online safety information on a global scale.

David is a Freeman of the City of London and a member of the Worshipful Company of Information Technologists, one of the Livery Companies of the City of London. The Company received its Royal Charter in 2010

David Miles, Arbenigwr mewn Diogelwch Plant Ar-lein

Dros y 30 o flynyddoedd diwethaf, mae David wedi cyflawni ystod eang o rolau arweinyddiaeth weithredol yn y diwydiant technoleg a’r sector elusennol, gan gynnwys gydag IBM, Compaq a Sefydliad Diogelwch Ar-lein Teuluoedd (FOSI).

Ar hyn o bryd, mae David yn aelod o Banel Arbenigol Cronfa Fyd-eang UNICEF er mwyn Stopio Trais yn Erbyn Plant ac mae’n aelod o Weithgorau Tystiolaeth a Thechnegol UKCCIS.

Yn ogystal, mae wedi cynghori Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno trefniadau dilysu oed ar gyfer plant mewn perthynas â chynnwys rhywiol amlwg ar-lein.

David oedd pensaer Cyfeiriadur Adnoddau a Gwybodaeth Byd-eang (GRID) FOSI.  Lansiwyd hwn yn 2010, a dyma’r unig ffynhonnell gynhwysfawr sy’n bodoli o hyd o wybodaeth am ddiogelwch ar-lein a adolygir gan gymheiriaid ar lefel fyd-eang.

Mae David yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain ac yn aelod o Worshipful Company of Information Technologists, un o Gwmnïau Lifrai Dinas Llundain.  Dyfarnwyd ei Siartr Brenhinol i’r Cwmni yn 2010.