Warning: implode(): Invalid arguments passed in /home/wisekids/public_html/wksummit/wp-content/themes/enfold/config-layerslider/LayerSlider/includes/slider_markup_html.php on line 36

Warning: implode(): Invalid arguments passed in /home/wisekids/public_html/wksummit/wp-content/themes/enfold/config-layerslider/LayerSlider/wp/shortcodes.php on line 224

Warning: implode(): Invalid arguments passed in /home/wisekids/public_html/wksummit/wp-content/themes/enfold/config-layerslider/LayerSlider/wp/shortcodes.php on line 225

Warning: implode(): Invalid arguments passed in /home/wisekids/public_html/wksummit/wp-content/themes/enfold/config-layerslider/LayerSlider/wp/shortcodes.php on line 226

*Mae modd Cofrestru Nawr* – http://wisekidssummit.uk/register [English]

Mae’n bleser gan WISE KIDS gyhoeddi y byddwn yn cynnal Uwchgynhadledd undydd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 30 Ionawr 2017, “Plant, Pobl Ifanc a Chyfryngau Ar-lein – Hyrwyddo Cymhwysedd Digidol, Lles a Dinasyddiaeth Ddigidol”.  Cynhelir yr Uwchgynhadledd hon er mwyn cefnogi Diwrnod Ewropeaidd Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a fydd yn digwydd ar 7 Chwefror 2017.

Uwchgynhadledd Plant, Pobl Ifanc a Chyfryngau Ar-lein:  Hyrwyddo Cymhwysedd Digidol, Lles a Dinasyddiaeth Ddigidol

Bydd yr Uwchgynhadledd hon yn dwyn ynghyd arbenigwyr a rhanddeiliaid allweddol o’r gymuned ar-lein, byd addysg, seicoleg, iechyd meddwl a’r diwydiant er mwyn rhannu tystiolaeth, syniadau ac arferion da i hyrwyddo Cymhwysedd Digidol, Lles a Dinasyddiaeth Ddigidol Plant a Phobl Ifanc.  Nod y themâu bras fydd cynnig golwg mwy cyflawn o’r agweddau niferus y mae plant a phobl ifanc sy’n cael eu magu mewn oes ddigidol yn eu hwynebu, a’r tensiynau a’r cyfleoedd a gynigir gan y rhain, yn ogystal â chamau ymarferol y gallwn eu cymryd i hyrwyddo’u cymhwysedd digidol, eu lles a’u dinasyddiaeth ddigidol.  Mae hyn yn arbennig o berthnasol i addysgwyr yng Nghymru yng ngoleuni adolygiad Donaldson o’r Cwricwlwm, a’i ffocws ar Gymhwysedd Digidol.

Yn benodol, bydd yr Uwchgynhadledd yn archwilio:

  • Sut y mae modd i ysgolion ddatblygu ac ymgorffori cymhwysedd digidol ar gyfer disgyblion a staff.  Bydd ESTYN, WISE KIDS ac addysgwyr blaenllaw yng Nghymru yn rhannu tystiolaeth, arferion da a syniadau er mwyn helpu ysgolion i feithrin hyder a chymhwysedd digidol staff a disgyblion, mewn ffyrdd trawsgwricwlaidd ac sy’n gadarn o ran addysgeg, er mwyn sicrhau dysgu ac addysgu mwy ysbrydoledig.
  • Sut y mae modd defnyddio diddordebau a sgiliau pobl ifanc er mwyn datblygu diwylliant o greadigrwydd a dinasyddiaeth ddigidol mewn ysgolion a darpariaeth ieuenctid arall, a’u paratoi ar gyfer cyflogaeth ac ar gyfer cyfranogi mewn cymdeithas wedi’i rhwydweithio.
  • Arferion digidol a phrofiadau ar-lein plant a phobl ifanc, a’r cysylltiadau gyda datblygu sgiliau, lles, bod yn agored i niwed, cydnerthedd ac iechyd meddwl.  Yn ogystal, ffyrdd y gall addysgwyr, gweithwyr ieuenctid a rhanddeiliaid eraill hyrwyddo cymhwysedd digidol, gallu a lles plant a phobl ifanc.
  • Hawliau plant a phobl ifanc a sut y gall addysgwyr a gweithwyr ieuenctid ddefnyddio fframwaith hawliau er mwyn hyrwyddo cymhwysedd digidol, lles a dinasyddiaeth ddigidol.
  • Rhianta a bywyd teuluol mewn oes ddigidol, a strategaethau effeithiol i rieni er mwyn iddynt gynorthwyo a helpu eu plant i ffynnu mewn oes ddigidol.
  • Rôl a phrofiad diwydiant wrth hyrwyddo diogelwch, addysg a sgiliau digidol pobl ifanc.
  • Sut y gall rhanddeiliaid fel gwasanaethau plant, CAMHS a gweithwyr proffesiynol eraill ddatblygu eu darpariaeth mewn ffyrdd sy’n cynorthwyo plant i ddatblygu eu cymhwysedd digidol, eu lles a’u cydnerthedd.

Yn ogystal, bydd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc mewn ffordd ganolog trwy gyfrwng cyflwyniadau, drama a sesiynau panel.  Bydd  y ffurf yn gymysg ac yn cynnwys sesiynau llawn a thrafodaethau panel.  Yn ogystal, bydd yn cynnwys stondinau arddangos gan randdeiliaid allweddol o’r sector.

Cynulleidfa Darged a Siaradwyr

Bydd yr Uwchgynhadledd traws-sector gyffrous hon o ddiddordeb i addysgwyr, ymchwilwyr, llunwyr polisïau, gweithwyr ieuenctid, y diwydiant, gwasanaethau plant, rhieni, gofalwyr, staff CAMHS, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat sydd â diddordeb yn y materion hyn.  Mae’r siaradwyr arbenigol a’r panelwyr yn cynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Nathan Wyburn, Athro Sonia Livingstone, Athro Katherine Weare, Dr Andrew Przybylski, Dr Ann John, Ms Josie Fraser, Dr Huw Davies, ESTYN, Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, CEOP, NSPCC, S4C, BBC Wales, Superawesome.TV a WISE KIDS.

Hoffem gydnabod a diolch i’n noddwyr a’n cefnogwyr am yr Uwchgynhadledd hon: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, S4C, ProMo-Cymru, Cymunedau Digidol Cymru, NSPCC, Children in Wales, All Wales School Liaison Core Programme, Internet Matters ac NCMH.