Rebecca Newton, Head of Trust and Community, SuperAwesome

As Head of Trust and Community, Rebecca leads online community, online safety, moderation, engagement, and PopJam customer services efforts at SuperAwesome.tv. Prior to joining SuperAwesome, Rebecca worked at Mind Candy as the Chief Community & Safety Officer for 8+ years, managing public policy, safety, community and moderation efforts for over 104 million registered users for the hit property Moshi Monsters. Between 2002 and 2007, she worked at Sulake.com (Habbo Hotels) as the Global Director of Community, where she oversaw community, public policy, customer service and safety efforts in 24 countries for the world’s largest teen virtual world game site.

Rebecca began her online community career with America Online in 1994, where she was the Program Manager for recruitment, orientation and education for AOL’s community leader program.

She also serves as the Chief Innovation Officer at Carolina Partners, bringing technology to the medical care field.

Rebecca contributes to various publications and speaks regularly on regulatory issues, internet safety and online community/social networking. She was the founder of VirComm (2011, 2012), the London-based annual conference for online community professionals.

Rebecca serves on the advisory board at AgeCheq. She has served as a member of UKCCIS (7 years), and is a member of the APPG for Young People and Social Technology (2014 – present). In 2016, she was appointed to the NSPCC Digital Task Force and to the Board of Trustees at DitchTheLabel.org. Rebecca served on the FOSI.org board of directors for 3 years.

Rebecca Newton, Head of Trust and Community, SuperAwesome

Fel Pennaeth Ymddiriedaeth a Chymuned, mae Rebecca yn arwain ymdrechion cymuned ar-lein, diogelwch ar-lein, cymedroli, ymgysylltu a gwasanaethau cwsmeriaid PopJam ar gyfer

SuperAwesome.tv.  Cyn ymuno â SuperAwesome, bu Rebecca yn gweithio i Mind Candy fel y Prif Swyddog Cymunedol a Diogelwch am 8+ mlynedd, gan reoli ymdrechion polisi cyhoeddus, diogelwch, cymuned a chymedroli ar gyfer dros 104 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig ar gyfer yr enwog Moshi Monsters.  Rhwng 2002 a 2007, bu’n gweithio i Sulake.com (Gwestai Habbo) fel Cyfarwyddwr Byd-eang Cymuned, lle y bu’n goruchwylio ymdrechion cymunedol, polisi cyhoeddus, gwasanaethau cwsmeriaid a diogelwch mewn 24 gwlad ar gyfer y wefan chwarae gemau rhith fwyaf yn y byd ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau.

Cychwynnodd Rebecca ar ei gyrfa gymunedol ar-lein gydag America Online ym 1994, lle’r oedd yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer recriwtio, cyfeiriadedd ac addysg ar gyfer rhaglen arweinydd cymunedol AOL.

Mae’n Brif Swyddog Arloesedd ar gyfer Carolina Partners hefyd, gan ddwyn technoleg i faes gofal meddygol.

Mae Rebecca yn cyfrannu at gyhoeddiadau amrywiol ac mae’n siarad yn rheolaidd am faterion rheoliadol, diogelwch ar y rhyngrwyd a rhwydweithio cymdeithasol/cymunedol ar-lein.  Roedd yn sylfaenydd VirComm (2011, 2012), y gynhadledd flynyddol yn Llundain ar gyfer gweithwyr proffesiynol cymunedol ar-lein.

Mae Rebecca yn aelod o fwrdd cynghori AgeCheq.  Mae hi wedi bod yn aelod o UKCCIS (7 mlynedd), ac mae’n aelod o APPG ar gyfer Pobl Ifanc a Thechnoleg Gymdeithasol (2014 – heddiw). Yn 2016, fe’i penodwyd i Dasglu Digidol NSPCC ac i Fwrdd Ymddiriedolwyr DitchTheLabel.org.  Bu Rebecca yn gwasanaethu ar fwrdd cyfarwyddwyr FOSI.org am 3 blynedd.