Dr Sangeet Bhullar, Founder, WISE KIDS
Title: Digital Citizenship for Young People – a 21st Century Competency

Dr Sangeet Bhullar is the founder of WISE KIDS, a non-profit company working in Wales and internationally in the areas of Children, Youth and New Media Literacy, Digital Literacy for transformative Education, Digital Citizenship and Online Safety. In this role, Sangeet has developed and delivering training programmes, led research projects, written guidance, advised schools and organisations and spoken at conferences in the UK and abroad on these topics. In 2014, she led the landmark WISE KIDS Generation 2000 research project in Wales on the Digital Media Habits and Digital Literacy of Year 9 pupils across Wales. This project was co-funded by WISE KIDS, the Children’s Commissioner for Wales, Logicalis and S4C. Other work includes projects with the Ministry of Education in Singapore to develop Essential Digital Literacy and Leadership for Educators, as well as to review and update their secondary school Cyber Wellness curriculum. She is a member of the CEOP Education Advisory Group and the Welsh Government Digital Inclusion Management Board. She is also one of the founders of WISP, the Wales Internet Safety Partnership, and an associate member of UKCCIS (the UK Council for Child Internet Safety). She was also a member of the ‘Digital Classroom Teaching’ Task and Finish Group set up by former Welsh Education Minister Leighton Andrews, which created the report: ‘Find it, make it, use it, share it: learning in digital Wales’.

Dr Sangeet Bhullar, Sylfaenydd, WISE KIDS
Teitl:  Dinasyddiaeth Ddigidol ar gyfer Pobl Ifanc – Cymhwysedd ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain

Dr Sangeet Bhullar yw sylfaenydd WISE KIDS, cwmni dielw sy’n gweithio yng Nghymru ac yn rhyngwladol ym maes Llythrennedd Plant, Pobl Ifanc a Chyfryngau Newydd, Llythrennedd Digidol ar gyfer Addysg drawsffurfiol, Dinasyddiaeth Ddigidol a Diogelwch Ar-lein.  Yn y rôl hwn, mae Sangeet wedi datblygu a darparu rhaglenni hyfforddiant, arwain prosiectau ymchwil, ysgrifennu canllawiau, cynghori ysgolion a sefydliadau ac mae wedi siarad mewn cynadleddau yn y DU ac mewn gwledydd tramor am y materion hyn.  Yn 2014, arweiniodd brosiect ymchwil pwysig iawn Cenhedlaeth 2000 WISE KIDS yng Nghymru ynghylch Arferion Cyfryngau Digidol a Llythrennedd Digidol disgyblion Blwyddyn 9 ar draws Cymru.  Cyd-ariannwyd y prosiect hwn gan WISE KIDS, Comisiynydd Plant Cymru, Logicalis ac S4C.  Mae gwaith arall yn cynnwys prosiectau gyda’r Weinyddiaeth Addysg yn Singapore i ddatblygu Llythrennedd ac Arweinyddiaeth Digidol Hanfodol i Addysgwyr, yn ogystal ag adolygu a diweddaru eu cwricwlwm Iechyd Seiber ar gyfer ysgolion uwchradd.  Mae’n aelod o Grŵp Cynghori Addysg CEOP a Bwrdd Rheoli Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru.  Yn ogystal, mae’n un o sylfaenwyr WISP, Partneriaeth Diogelwch y Rhyngrwyd Cymru, mae’n aelod cyswllt UKCCIS (Cyngor y DU dros Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd).  Roedd hefyd yn aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Addysgu mewn Ystafell Ddosbarth Ddigidol’ a sefydlwyd gan gyn Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, a luniodd yr adroddiad:  ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu:  dysgu yn y Gymru ddigidol’.