Dr Emma Bond

Dr Emma Bond is an Associate Professor in the Faculty of Arts, Business and Applied Social Science at University of Suffolk.  She has over 10 years teaching experience on social science undergraduate and post-graduate courses and extensive research experience.  Emma’s specialist teaching and research interested focus on the everyday interactions between people, society and technology. She is especially interested in developing both innovative and accessible methodologies in research which foster participation with marginalised groups. She is internationally renowned for her work on online and social media environments and is currently an invited member of the Scientific Advisory Board for Health Literacy in Childhood and Adolescence (HCLA) Consortium in Germany.

Her current research interests have a strong focus on qualitative methods, including innovative, creative and virtual methods, and include risk and everyday life; self-identity especially gendered, sexual identities; technology and higher education, and young people’s use of media.  Emma recently completed a study on understanding domestic abuse and she is currently working with the Better Policing Collaborative, The College of Policing and HEFC and she is undertaking a review of domestic violence and abuse for 5 police forces in the UK as part of a project with the Police Knowledge Fund.

Dr Emma Bond

Mae Dr Emma Bond yn Athro Cyswllt yng Nghyfadran y Celfyddydau, Busnes a Gwyddor Gymdeithasol Gymhwysol ym Mhrifysgol Suffolk.  Mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad addysgu ar gyrsiau gwyddor gymdeithasol israddedig ac ôl-raddedig, ynghyd â phrofiad ymchwil helaeth.  Roedd addysgu arbenigol ac ymchwil Emma yn canolbwyntio ar y rhyngweithio bob dydd rhwng pobl, cymdeithas a thechnoleg.  Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datblygu methodoleg arloesol a hygyrch mewn ymchwil sy’n meithrin cyfranogiad gyda grwpiau ar y cyrion.  Mae’n adnabyddus ar lefel ryngwladol am ei gwaith ar amgylcheddau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol ac ar hyn o bryd, mae’n aelod gwâdd o Fwrdd Cynghori Gwyddonol y Consortiwm Llythrennedd Iechyd yn ystod Plentyndod a’r Glasoed (HCLA) yn yr Almaen.

Mae ei diddordebau ymchwil cyfredol yn cynnwys ffocws cryf ar ddulliau ansoddol, gan gynnwys dulliau arloesol, creadigol a rhith, ac maent yn cynnwys risg a bywyd bob dydd;  hunan-hunaniaeth yn enwedig hunaniaeth rhywiol ac ar sail rhyw;  technoleg ac addysg uwch, a defnydd pobl ifanc o gyfryngau.  Yn ddiweddar, cwblhaodd Emma astudiaeth ynghylch deall cam-drin domestig ac ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda Better Policing Collaborative, Y Coleg Plismona a HEFC ac mae’n cynnal adolygiad o drais a cham-drin domestig ar gyfer 5 heddlu yn y DU fel rhan o brosiect gyda Chronfa Wybodaeth yr Heddlu.